Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol

Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol
Enw llawnDynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (International Standard Name Identifier)
TalfyriadISNI
Cyflwynwyd15 Mawrth 2012
Corff safoniISNI-IA
Nifer o ddigidau16
Enghraifft000000012146438X
Gwefanisni.org/

Mae Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (Saesneg: International Standard Name Identifier ('ISNI') yn ddull o adnabod hunaniaeth unigryw cyfrannwyr i gyfryngau megis y we, llyfr, rhaglenni teledu neu albymau sain. Mae'r dynodwr a ddefnyddir yn cynnwys 16 digid rhifol wedi'i rannu'n bedwar tamaid.

Fe'i datblygwyd gan Y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni fel Safon Rhyngwladol Ddrafft[1] yn gyntaf cyn ei dderbyn yn ffurfiol ar 15 Mawrth 2012. Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng enwau pobl (yn enwedig o fewn y cyfryngau) y gellid, fel arall, eu cymysgu.

  1. Draft International Standard 27729; adalwyd 15 Hydref 2014

Developed by StudentB